A rad wolf

Gwybodaeth am Hygyrchedd

A rad wolf

Rydym yn deall anabledd o fewn y model cymdeithasol.

Mae hyn yn golygu ein bod wedi ymrwymo i wneud y profiad Dreamachine byw ac ar-lein mor hygyrch â phosibl.

Datblygwyd Dreamachine gyda llawer iawn o ymchwil mewn grwpiau ffocws i sicrhau ei fod mor gynhwysol a hygyrch â phosibl, gan gynnwys ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn, y rhai sy’n defnyddio cymhorthion symudedd, pobl ddall a rhannol ddall, a phobl fyddar a thrwm eu clyw.

Profiadau Wedi'u Haddasu

A rad wolf

Profiad Gwrando Dwfn

Mae profiad Gwrando Dwfn Dreamachine yn brofiad sain amgylchynol 360 gradd trochi, gyda goleulun tyner nad yw'n cynnwys goleuadau sy'n fflachio'n gyflym. Fe'i cynlluniwyd i wneud y profiad mor hygyrch â phosibl i bobl a allai fod â sensitifrwydd i oleuadau strôb neu amgylcheddau sy’n effeithio ar yr holl synhwyrau. Os ydych chi'n sensitif i gerddoriaeth swnllyd, gellir darparu amddiffynwyr clust.

Ystyrir bod y profiad Gwrando Dwfn yn addas ar gyfer y rhai sydd â chyflwr ar y sbectrwm awtistiaeth, epilepsi, anabledd dysgu, neu sensitifrwydd i oleuadau strôb.

Hygyrchedd Synhwyraidd

Mae amddiffynwyr clustiau a phlygiau clust ar gael i bobl sydd â sensitifrwydd i sŵn uchel a/neu ddwys. Siaradwch ag aelod o staff wrth gyrraedd a gallwn wneud yr addasiadau hyn i chi.

Mae amrywiaeth o feddalwedd hygyrchedd ac offer cynorthwyol ar gael ar gyfer yr holl offer digidol yn ein mannau sy’n lleihau’r effaith ar y synhwyrau. Siaradwch ag aelod o staff wrth gyrraedd a gallwn wneud yr addasiadau hyn i chi.

Mae bwrdd stori ar gael ar gyfer pob lleoliad, mae hyn yn cynnwys unrhyw heriau synhwyraidd (sain/golau/arogl/cyffyrddiad/ac ati a phresenoldeb synau/goleuadau sydyn) y gall ymwelwyr eu hwynebu ar eu ffordd i’r lleoliad neu yn y lleoliad. Mae byrddau stori ar gael ar ein tudalennau lleoliad, yn dod yn fuan.

Hygyrchedd Clywedol

Rydym yn cynnig fideo â dehongliad Iaith Arwyddion Prydain (BSL) i gyd-fynd â holl brofiadau’r Dreamachine.

Mae gennym nifer cyfyngedig o brofiadau â dehongliad Iaith Arwyddion Prydain (BSL) dynodedig . Mae’r rhain wedi’u rhestru ar ein tudalen docynnau a gellir eu harchebu ar-lein neu dros y ffôn gyda’r Swyddfa Docynnau yn y lleoliad o’ch dewis.

Rydym hefyd yn cynnig canllawiau Iaith Arwyddion Prydain (BSL). I archebu canllaw BSL, cysylltwch â’n Swyddfa Docynnau yn eich lleoliad dewisol o leiaf bythefnos cyn eich ymweliad.

Gofod Tawel

Ar ôl y naill brofiad Dreamachine, fe’ch gwahoddir i dreulio amser yn ein Gofod Myfyrio rhyngweithiol yn y lleoliad, gyda chyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol neu fyfyriol ar eich pen eich hun neu gydag eraill. Os ydych chi eisiau lle i ffwrdd oddi wrth bobl eraill neu’r profiad yn ystod eich ymweliad, mae gennym nifer o opsiynau lle gallwch eistedd yn ôl ac ymlacio. Mae’r mannau hyn yn cynnig sain a goleuadau isel, seddi cyfforddus a chlustogau. Bydd aelod o staff yn gallu eich cyfeirio i’r lleoedd hyn ar y diwrnod.

Cŵn Tywys a Chymorth

Rydym yn croesawu cŵn tywys a chymorth i’r Dreamachine i sicrhau mynediad i ymwelwyr na fyddent fel arall yn gallu dod a chymryd rhan yn y profiad. Disgwylir i berchnogion gymryd cyfrifoldeb am eu ci cymorth drwy gydol eu hymweliad a dangos achrediad wrth gyrraedd. Sylwch fod gan y profiad oleuadau sy’n fflachio a cherddoriaeth uchel, ac nad yw’n briodol i gŵn fynd i mewn i’r elfen honno o’r sesiwn. Awgrymwn eich bod yn dod â chydymaith i ofalu am eich ci tywys neu gi cymorth, a gallwn ddarparu man aros ar gyfer hyn. Ni chaniateir unrhyw anifeiliaid eraill yn ein hadeilad.

This site is registered on wpml.org as a development site.