Wedi’i greu gan Collective Act, mewn cydweithrediad â’r artistiaid Assemble, sydd wedi ennill Gwobr Turner, Jon Hopkins, y cyfansoddwr a enwebwyd am wobr Grammy a Mercury, a thîm o dechnolegwyr, gwyddonwyr ac athronwyr blaenllaw, mae Dreamachine yn eich gwahodd ar daith hudolus i archwilio potensial rhyfeddol eich meddwl.
Wedi’i greu yn gyfan gwbl gan olau a cherddoriaeth, bydd byd lliwgar y Dreamachine yn datgelu ei hun y tu ôl i’ch llygaid caeedig – wedi’i greu gan eich ymennydd eich hun ac yn gwbl unigryw i chi.