A rad wolf

Profiad trochi fel dim un arall.

FAQs

Beth yw profiad Dreamachine?

Mae’r Dreamachine yn brofiad ymgolli ar eich eistedd gyda cherddoriaeth a golau, wedi’i gynllunio i’w fwynhau gyda’ch llygaid ar gau. Byddwch yn eistedd yn gyfforddus drwy gydol y profiad.

Mae dwy fersiwn o’r profiad Dreamachine: I’r Holl Synhwyrau a Gwrando Dwfn. 

Mae’r profiad i’r Holl Synhwyrau yn cynnwys goleuadau llachar sy’n fflachio’n gyflym, a elwir yn oleuadau strôb, a cherddoriaeth uchel. I lawer o bobl bydd effeithiau’r goleuadau a’r gerddoriaeth yn cynhyrchu delweddau lliwgar, caleidosgopig y tu ôl i’ch llygaid cau. Mae’r profiad yn cynnwys sain amgylchynol 360 gradd, ac mae wedi’i gynllunio i fod yn daith fewnol bleserus a all fod yn hamddenol ac yn gyffrous.

Nid yw’r profiad i’r Holl Synhwyrau yn addas i bobl feichiog na rhai pobl ag epilepsi neu sensitifrwydd posibl arall i oleuadau sy’n fflachio’n gyflym a synau uchel. Os oes unrhyw fath o’r sensitifrwydd hyn arnoch chi, rydym yn awgrymu eich bod yn ystyried trefnu profiad Gwrando Dwfn.

Mae profiad Gwrando Dwfn Dreamachine yn brofiad ymgolli mewn sain amgylchynol 360 gradd gyda goleuadau ysgafn nad ydynt yn cynnwys goleuadau sy’n fflachio’n gyflym. Mae wedi’i gynllunio i wneud y profiad mor hygyrch â phosibl i’r rhai a allai fod â sensitifrwydd i oleuadau strôb neu amgylcheddau sy’n ysgogi’r holl synhwyrau.

Ar ôl y naill brofiad Dreamachine neu’r llall, cewch eich gwahodd i dreulio amser yn ein Man Myfyrio rhyngweithiol yn y lleoliad, lle bydd cyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol neu fyfyriol yn unigol a gydag eraill.

I bwy mae’r profiad byw?

Gall unrhyw oedolyn 18 oed neu hŷn gymryd rhan ym mhrofiad Dreamachine.

Mae profiad i’r Holl Synhwyrau Dreamachine yn defnyddio goleuadau llachar sy’n fflachio’n gyflym, a elwir yn oleuadau strôb, a cherddoriaeth uchel, ac nid yw’n addas i bobl feichiog na rhai pobl ag epilepsi neu sensitifrwydd cryf arall i oleuadau sy’n fflachio’n gyflym a synau uchel. Os oes unrhyw fath o’r sensitifrwydd hyn arnoch chi, rydym yn awgrymu eich bod yn ystyried trefnu profiad Gwrando Dwfn, sy’n brofiad ymgolli mewn sain amgylchynol 360 gradd gyda goleuadau ysgafn nad ydynt yn cynnwys goleuadau sy’n fflachio’n gyflym.  Os ydych chi’n sensitif i gerddoriaeth uchel, gellir darparu amddiffynwyr clustiau ar gyfer y ddau brofiad. 

Mae’r profiad wedi’i gynllunio i fod ar gael i gynifer o bobl â phosibl, gan gynnwys defnyddwyr cadeiriau olwyn, y rhai sy’n defnyddio cymhorthion symudedd, pobl ddall a rhannol ddall, a phobl fyddar a thrwm eu clyw, drwy fod â staff wrth law ar y safle i lywio eich profiad.

Os byddai amgylchedd hamddenol o fantais i chi, mae sesiynau hamddenol eraill ar gael. Gweler ein tudalen Hygyrchedd i gael manylion am sut i archebu. Mae yna ardal dawel bwrpasol hefyd yn y Man Myfyrio ar gyfer cyfranogwyr y gallai fod angen amser i ffwrdd o’r profiad arnyn nhw.

Nid oes unrhyw gynnwys sensitif i fod yn ymwybodol ohono.

Sut mae archebu tocyn?

Mae tocynnau ar gael bellach ar gyfer Llundain a Chaerdydd. I’w harchebu, ewch i dudalen Profiad Ymgolli y wefan. Ar gyfer Belfast a Chaeredin, bydd tocynnau ar gael i’w harchebu o ganol mis Mehefin. Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr i fod y cyntaf i gael gwybod pryd bydd tocynnau ar gael. Bydd pob tocyn am ddim.

Sut ydw i’n ymweld â Dreamachine?

Gallwch ymweld â’r profiad mewn lleoliadau yn Llundain, Caerdydd, Belfast a Chaeredin. Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr i sicrhau eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am ddyddiadau lansio tocynnau. Os na allwch chi fynd neu os ydych o dan 18 oed, gweler adrannau’r Rhaglen Ysgolion a Darganfod ein gwefan i gael rhagor o wybodaeth am ffyrdd eraill y gallwch gymryd rhan yn ein rhaglen.

This site is registered on wpml.org as a development site.