A rad wolf

Ynglŷn â Dreamachine

A rad wolf

Mae Dreamachine wedi’i ysbrydoli gan ddyfais ryfeddol o 1959 nad oes llawer o bobl yn gwybod amdano, gan yr artist-ddyfeisiwr Brion Gysin.

Roedd ei ddyfais cartref arbrofol yn defnyddio golau sy’n fflachio i greu dadrithiadau byw, patrymau caleidosgopig a ffrwydradau o liw ym meddwl y gwyliwr.

Wedi’i gynllunio i fod y ‘gwaith celf cyntaf i’w brofi gyda’ch llygaid ar gau’, roedd gan Gysin weledigaeth arloesol ar gyfer ei ddyfais i gymryd lle’r teledu ym mhob cartref yn America. Yn hytrach na defnyddwyr goddefol cyfryngau a gynhyrchir ar raddfa fawr, byddai gwylwyr ei Dreamachine yn creu eu profiadau sinematig eu hunain.

Bu farw Gysin cyn y gellid gwireddu ei weledigaeth, ond mae ei syniad o ddefnyddio technoleg i’n hailgysylltu â’n bywydau mewnol yn parhau i fod yr un mor radical, a pherthnasol, heddiw.

A rad wolf

Dreamachine newydd ar gyfer yr 21ain Ganrif

Dros drigain mlynedd ar ôl iddo gael ei ddyfeisio gyntaf, mae Dreamachine wedi cael ei ail-ddychmygu’n radical fel math newydd pwerus o brofiad ar y cyd, sy’n digwydd ym mhob gwlad yn y DU am ddim.

Wedi’i greu gan Collective Act, mewn cydweithrediad a’r artistiaid Assemble sydd wedi ennill Gwobr Turner, Jon Hopkins, y cyfansoddwr a enwebwyd am wobr Grammy a Mercury, a thîm o dechnolegwyr, gwyddonwyr ac athronwyr blaenllaw, mae ein rhaglen yn eich gwahodd ar daith hudolus i archwilio potensial rhyfeddol eich meddwl.

Discover the Dreamachine Programme

This site is registered on wpml.org as a development site.