Cwestiynau Cyffredin

A all plant a phobl ifanc fynd?

Mae’r profiad yn addas ar gyfer pobl 18 oed neu hŷn yn unig. Nid oes unrhyw ddarpariaeth ar gyfer plant o dan 18 oed, ac nid oes man aros ar gael yn y lleoliadau.

Os na allwch chi fynd neu os ydych o dan 18 oed, gweler adrannau’r Rhaglen Ysgolion a Darganfod ein gwefan i gael rhagor o wybodaeth am ffyrdd eraill y gallwch gymryd rhan yn ein rhaglen.

Mae’r profiad yn addas ar gyfer pobl ifanc 18 oed neu hŷn yn unig. Nid oes unrhyw ddarpariaeth ar gyfer plant dan 18 oed ac nid oes man aros ar gael. Os na allwch chi fynd neu os ydych o dan 18 oed, gweler adrannau’r Rhaglen Ysgolion a Darganfod ein gwefan i gael rhagor o wybodaeth am ffyrdd eraill y gallwch gymryd rhan yn ein rhaglen.

A all y profiad achosi epilepsi?

Ni all yr effeithiau a ddefnyddir ym mhrofiad Dreamachine achosi epilepsi. Dim ond effeithio ar sensitifrwydd sy’n bodoli eisoes y gall wneud, felly mae’n rhaid i bob cyfranogwr lenwi ffurflen cyn y digwyddiad sy’n cynnwys gwybodaeth am gyflyrau meddygol neu sensitifrwydd a allai fod yn berthnasol i’ch cyfranogiad, cyn mynd i’r profiad. Mae’n bosibl y bydd gennych sensitifrwydd perthnasol nad ydych yn ymwybodol ohono. Os nad ydych yn siŵr a ddylech chi gymryd rhan, ystyriwch archebu tocyn i’r profiad Gwrando Dwfn.

Os cewch drawiad o ganlyniad i sensitifrwydd a oedd yn bodoli eisoes, ond nad oeddech yn ymwybodol ohono, efallai y bydd yn arwain at oblygiadau ehangach i chi. Os ydych yn gyrru, un effaith ar unwaith o gael trawiad yw efallai y bydd yn rhaid i chi roi’r gorau i yrru am gyfnod penodol – gallai hyn fod rhwng 3 a 12 mis. Mae hyn yn wir am bob math o drawiad, p’un a oes gennych ddiagnosis o epilepsi ai peidio. Gall hyn gael effaith ar eich bywyd, neu eich gallu i weithio/teithio, yn enwedig os ydych yn ystyried ymuno â’r Lluoedd Arfog, neu i unrhyw un sy’n gweithio fel peilot masnachol neu yrrwr trên. Gall rhai gweithgareddau fod wedi’u cyfyngu i chi er eich diogelwch tra bod y rheswm dros y trawiad yn cael ei asesu a’i ddiagnosio. I gael rhagor o wybodaeth am oblygiadau cael trawiad a byw ag epilepsi, rydym yn awgrymu eich bod yn cyfeirio at y ffynonellau canlynol:

Os nad ydych yn siŵr a ddylech chi gymryd rhan, ystyriwch archebu tocyn i’r profiad Gwrando Dwfn.

A fydd gennych ystafell gotiau/loceri?

Ym mhob lleoliad bydd loceri’n cael eu darparu i chi gadw eich esgidiau a’ch eiddo cyn i chi fynd i mewn i’r profiad. Sylwch, ni allwn ddarparu lle ar gyfer eitemau mawr, fel cesys dillad, na fyddant yn ffitio mewn locer, felly rydym yn eich cynghori i ddod â chyn lleied o eiddo personol â phosibl gyda chi. Maint y loceri yw 445mm(H) x 300mm(Ll) x 318mm(D).

A fydd toiledau’n hygyrch ac yn niwtral o ran rhyw?

Mae gennym doiledau hygyrch a niwtral o ran y rhywiau ym mhob lleoliad, mae rhagor o wybodaeth am ein lleoliadau a’u cyfleusterau hygyrchedd penodol [yma].

A gaf i ailymuno os byddaf yn gadael y profiad?

Os byddwch yn gadael y profiad byw ar unrhyw adeg, ni fydd yn bosibl ailymuno. Bydd cyfleusterau tŷ bach a dŵr ar gael yn y lleoliad a bydd staff cwrdd a chroesawu yn gallu eich cynorthwyo os oes gennych unrhyw broblemau.

A gaf i archebu tocyn i gynorthwyydd personol neu gydymaith?

Os oes angen cymorth ffrind neu gynorthwyydd arnoch er mwyn gallu dod, cewch archebu dau docyn ar gyfer yr un sesiwn. I gael rhagor o wybodaeth, edrychwch ar ein tudalen Hygyrchedd.

A gaf i ddefnyddio fy ffôn?

Oherwydd natur y profiad, rydym yn gofyn i chi adael eich ffôn symudol yn y loceri a ddarperir. Os oes angen i chi gadw eich ffôn arnoch am resymau argyfwng, bydd staff cwrdd a chroesawu yn rhoi bag ffôn sy’n atal signal i chi er mwyn i chi ei gadw gyda chi. Fodd bynnag, nodwch na fyddwch yn cael ei ddefnyddio tra byddwch ym mhrofiad Dreamachine. Os oes angen i chi ddefnyddio’ch ffôn ar unrhyw adeg, bydd staff cwrdd a chroesawu yn gallu dangos ble y gallwch wneud hynny. Os oes angen i chi ddefnyddio’ch ffôn am resymau Hygyrchedd, rhowch wybod i aelod o’n staff cwrdd a chroesawu.

A gaf i ddod gyda fy nghi tywys neu gi cymorth?

Rydym yn croesawu cŵn tywys a chymorth i’r Dreamachine i sicrhau mynediad i ymwelwyr na fyddant yn gallu dod a chymryd rhan yn y profiad fel arall. I gael rhagor o wybodaeth, edrychwch ar ein tudalen Hygyrchedd.

A gaf i ddod os nad oes gen i docyn ymlaen llaw?

Oherwydd galw mawr am docynnau, rydym yn argymell eich bod yn archebu tocyn i sicrhau eich lle. Mae croeso i chi fynd i’r lleoliad heb docyn ac ymuno â chiw, ond ni allwn sicrhau y bydd lle ar gael ar gyfer y sesiwn yr ydych yn dymuno mynd iddi ac efallai y bydd yn rhaid aros am y sesiwn nesaf sydd ar gael. Os byddwch yn penderfynu mynd heb archebu tocyn ymlaen llaw, rydym yn argymell yn gryf eich bod yn llenwi’r ffurflen cyn y digwyddiad ymlaen llaw, er mwyn gwybod pa fath o sesiwn sy’n addas i chi. Os na fyddwch yn llenwi’r ffurflen cyn y digwyddiad ymlaen llaw, gofynnir i chi wneud hyn wrth gyrraedd y lleoliad. Gall hyn olygu nad yw’r sesiynau sy’n weddill ar gyfer y diwrnod hwnnw yn addas i chi neu gynyddu’r amser aros ar gyfer y sesiwn nesaf sydd ar gael.

A gaf i fynd â bwyd a diod i’r profiad?

Ni chaniateir bwyd a diod ym mhrofiad byw Dreamachine, ond mae dŵr ar gael yn y Man Myfyrio ar ôl y rhan o’r profiad sydd wedi’i hamseru.

A ganiateir ffotograffiaeth?

Ni chaniateir ffotograffau na fideos yn y profiad Dreamachine.

A yw’r profiad yn hygyrch i gadeiriau olwyn?

Mae pob lleoliad Dreamachine yn hygyrch i gadeiriau olwyn. Mae lleoedd cadair olwyn ar gael ym mhob profiad Dreamachine, gallwch archebu tocyn cadair olwyn ar-lein neu dros y ffôn gyda’r Swyddfa Docynnau yn eich dewis o leoliad. Os byddai’n well gennych beidio ag eistedd yn eich cadair olwyn yn ystod y profiad, archebwch docyn trosglwyddo cadair olwyn dros y ffôn gyda’r Swyddfa Docynnau yn eich dewis o leoliad. I gael rhagor o wybodaeth, edrychwch ar ein tudalen Hygyrchedd.

A yw’r profiad yn hygyrch os ydw i’n ddall neu’n rhannol ddall?

Mae profiad i’r Holl Synhwyrau Dreamachine a’r profiad Gwrando Dwfn yn hygyrch i bobl ddall neu rannol ddall. Bydd cymorth Disgrifio Sain a Darllen Sgrin ar gael. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n tudalen Hygyrchedd.

A yw’r profiad yn hygyrch os ydw i’n fyddar neu’n drwm fy nghlyw?

Rydym yn cynnig fideo ag Iaith Arwyddion Prydain (BSL) i gyd-fynd â holl brofiadau Dreamachine. Rydym hefyd yn cynnig tywyswyr Iaith Arwyddion Prydain (BSL). I gael rhagor o wybodaeth, edrychwch ar ein tudalen Hygyrchedd.

Beth ddylwn ei wisgo?

Ni ellir gwisgo esgidiau ar gyfer y profiad, felly gofynnir i chi dynnu a chadw eich esgidiau yn y loceri a ddarperir cyn i chi fynd i mewn. Gwisgwch neu dewch â sanau gyda chi. Os na allwch chi dynnu eich esgidiau am resymau Hygyrchedd, darperir gorchuddion esgidiau tafladwy. Rydym yn argymell eich bod yn gwisgo dillad cyfforddus. Byddwch yn eistedd yn llonydd am lawer o’r profiad, felly rydym yn eich cynghori i ddod â siwmper i sicrhau eich bod yn ddigon cynnes.

Beth fydd angen i mi ei ddangos wrth gyrraedd i gael mynediad?

Dylech gyrraedd 10 munud cyn amser eich sesiwn. Pan fyddwch yn cyrraedd y lleoliad, bydd angen i chi ddangos eich tocyn i staff cwrdd a chroesawu i fynd i mewn. Os ydych chi’n mynychu profiad i’r Holl Synhwyrau Dreamachine, bydd angen i chi ddangos prawf eich bod wedi llenwi ffurflen cyn y digwyddiad hefyd ochr yn ochr â dull adnabod personol. Os ydych chi’n 18-25 oed, mae’n rhaid i chi allu darparu dull adnabod ffotograffig fel prawf oedran. Os ydych dros 25 oed, bydd angen i chi ddangos prawf o’ch enw yn unig.

Beth fydd yn digwydd os caiff sioe ei newid neu ei chanslo?

Os bydd yn rhaid i ni newid neu ganslo unrhyw sesiynau a drefnwyd oherwydd digwyddiadau y tu hwnt i’n rheolaeth, byddwn yn ceisio rhoi gwybod i chi dros y ffôn neu drwy e-bost lle bo hynny’n bosibl, yn dibynnu ar yr wybodaeth gyswllt yr ydych wedi’i rhoi. Byddwn yn rhoi cymaint o rybudd â phosibl. Gan nad ydym yn gallu gwarantu y byddwn yn gallu cysylltu â chi, rydym yn eich cynghori i wirio’r wefan y gwnaethoch archebu drwyddi cyn teithio i’r lleoliad. Os caiff eich digwyddiad ei aildrefnu, bydd pob tocyn yn cael ei drosglwyddo’n awtomatig pryd bynnag y bo modd.

How does the experience work? (W)

The Dreamachine is an immersive experience with music and light, designed to be enjoyed with your eyes closed. You will be comfortably seated throughout the experience.

You’ll be able to experience Dreamachine in London, Cardiff, Belfast and Edinburgh between May and September 2022. The first release of tickets for London and Cardiff are available now. All tickets to the Dreamachine are free.

The Dreamachine immersive experience is part of a wider Dreamachine programme exploring perception, illusion and the power of the mind. It is part of UNBOXED: Creativity in the UK.

Beth os nad ydw i’n mwynhau’r profiad neu’n teimlo’n anghyfforddus ynddo?

Yn ystod y profiad, byddwch yn eistedd yn gyfforddus drwyddi draw. I lawer o bobl, bydd effeithiau’r goleuadau a’r gerddoriaeth yn cynhyrchu delweddau lliwgar, caleidosgopig y tu ôl i’w llygaid cau. Mae’r profiad yn cynnwys sain amgylchynol 360 gradd, ac mae wedi’i gynllunio i fod yn daith fewnol bleserus a all fod yn hamddenol ac yn gyffrous. 

Os nad ydych yn mwynhau’r profiad, bydd gennych nifer o opsiynau i dynnu’n ôl ohono, neu gallwch adael yn rhwydd ar unrhyw adeg. Bydd staff ar y safle drwy’r amser a byddant ar gael i lywio eich profiad, a chynnig cymorth i unrhyw un a all fod yn teimlo anesmwythder o gwbl.

Beth os oes gen i anghenion synhwyraidd?

Rydym wedi ystyried amrywiaeth o anghenion synhwyraidd wrth gynllunio’r profiad. I gael rhagor o wybodaeth, edrychwch ar ein tudalen Hygyrchedd.

Beth os ydw i’n hwyr?

Dylech gyrraedd o leiaf 10 munud cyn amser y sesiwn a drefnwyd i ganiatáu digon o amser i wirio’ch dogfennau cyn mynd i mewn i’r profiad. Oherwydd galw mawr, os nad ydych wedi cofrestru eich presenoldeb erbyn amser y sesiwn a drefnwyd, bydd eich tocyn yn cael ei ryddhau i’r ciw sy’n aros. Os byddwch yn cyrraedd yn hwyr i’ch sesiwn a bod eich tocynnau wedi’u rhyddhau, bydd staff cwrdd a chroesawu yn cadw lle i chi ar gyfer y sesiwn nesaf sydd ar gael. Bydd hyn yn amodol ar b’un a oes lle, felly ni ellir sicrhau archeb newydd.

Beth os ydw i’n sâl ar ddiwrnod fy sesiwn?

Peidiwch â mynd i Dreamachine os ydych yn teimlo’n sâl neu os oes gennych unrhyw symptomau Covid-19. Cysylltwch â’r swyddfa docynnau a byddan nhw’n gwneud eu gorau i aildrefnu’ch tocynnau ar gyfer dyddiad arall, yn amodol ar y tocynnau sydd ar gael.

Faint yw’r tocynnau?

Mae tocynnau i Dreamachine am ddim. I gael lle, archebwch amser tocyn.

Gwybodaeth am gyffuriau ac alcohol

Ceir gwaharddiad llym ar gyffuriau ac alcohol yn y profiad Dreamachine, ac efallai na fyddwch yn cael mynediad os ydym yn credu eich bod o dan ddylanwad y naill neu’r llall. Rydym yn argymell yn gryf nad ydych yn cymryd cyffuriau nac alcohol yn y 24 awr cyn eich sesiwn, er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau posibl.

I bwy mae’r profiad byw?

Gall unrhyw oedolyn 18 oed neu hŷn gymryd rhan ym mhrofiad Dreamachine.

Mae profiad i’r Holl Synhwyrau Dreamachine yn defnyddio goleuadau llachar sy’n fflachio’n gyflym, a elwir yn oleuadau strôb, a cherddoriaeth uchel, ac nid yw’n addas i bobl feichiog na rhai pobl ag epilepsi neu sensitifrwydd cryf arall i oleuadau sy’n fflachio’n gyflym a synau uchel. Os oes unrhyw fath o’r sensitifrwydd hyn arnoch chi, rydym yn awgrymu eich bod yn ystyried trefnu profiad Gwrando Dwfn, sy’n brofiad ymgolli mewn sain amgylchynol 360 gradd gyda goleuadau ysgafn nad ydynt yn cynnwys goleuadau sy’n fflachio’n gyflym.  Os ydych chi’n sensitif i gerddoriaeth uchel, gellir darparu amddiffynwyr clustiau ar gyfer y ddau brofiad. 

Mae’r profiad wedi’i gynllunio i fod ar gael i gynifer o bobl â phosibl, gan gynnwys defnyddwyr cadeiriau olwyn, y rhai sy’n defnyddio cymhorthion symudedd, pobl ddall a rhannol ddall, a phobl fyddar a thrwm eu clyw, drwy fod â staff wrth law ar y safle i lywio eich profiad.

Os byddai amgylchedd hamddenol o fantais i chi, mae sesiynau hamddenol eraill ar gael. Gweler ein tudalen Hygyrchedd i gael manylion am sut i archebu. Mae yna ardal dawel bwrpasol hefyd yn y Man Myfyrio ar gyfer cyfranogwyr y gallai fod angen amser i ffwrdd o’r profiad arnyn nhw.

Nid oes unrhyw gynnwys sensitif i fod yn ymwybodol ohono.

Pa gamau diogelwch Covid-19 ydych chi’n eu cymryd?

Mae Collective Act, a’n holl bartneriaid, wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd diogel a hylan i gynulleidfaoedd, yn unol â chanllawiau’r llywodraeth. Mae mannau’r digwyddiadau wedi’u cynllunio i’w rhannu ag eraill. Bydd holl fannau’r digwyddiadau a mannau lle bydd llawer o bobl yn cael eu glanhau, eu diheintio a’u hawyru’n rheolaidd. Ar hyn o bryd, nid yw’n ofynnol gwisgo gorchuddion wyneb pan fyddwch yn eistedd yn y Dreamachine, ond rydym yn argymell eich bod yn gwisgo un cyn ac ar ôl y profiad pan fyddwch yn y lleoliad. Rydym yn eich annog yn gryf i gymryd prawf llif unffordd cyn mynd. Peidiwch ag ymweld â Dreamachine os oes gennych unrhyw symptomau COVID-19, neu os ydych chi wedi profi’n bositif am COVID-19.

Byddwn yn dilyn holl ganllawiau’r llywodraeth ar y pryd, felly edrychwch ar yr wybodaeth ddiweddaraf cyn eich ymweliad

Pa gamau ydych chi wedi’u cymryd i wneud y profiad yn hygyrch?

Mae Dreamachine wedi’i ddatblygu gydag ymchwil grŵp ffocws helaeth i sicrhau ei fod mor gynhwysol a hygyrch â phosibl, gan gynnwys ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn, y rhai sy’n defnyddio cymhorthion symudedd, pobl ddall a rhannol ddall, a phobl fyddar a thrwm eu clyw, drwy fod â staff wrth law ar y safle i lywio’ch profiad.

Yn ystod ein hymchwil a’n datblygiad, rydym wedi cynnal ymchwil grŵp ffocws helaeth gyda grwpiau dall a rhannol ddall, pobl fyddar a thrwm eu clyw, y rhai â gofynion mynediad corfforol a synhwyraidd a chynghorwyr arbenigol perthnasol. Mae’r ymchwil hon wedi llywio dyluniad ein mannau a’r profiad ei hun, ac mae hefyd wedi arwain at ddatblygu profiad Gwrando Dwfn Dreamachine i sicrhau bod Dreamachine yn hygyrch i unrhyw un a allai fod â sensitifrwydd i oleuadau strôb neu amgylcheddau sy’n ysgogi’r holl synhwyrau. Mae profiad Gwrando Dwfn Dreamachine wedi’i gynllunio a’i ddatblygu gan yr un tîm creadigol, a gyda’r un trylwyredd ac uniondeb artistig â phrofiad i’r Holl Synhwyrau Dreamachine. I gael rhagor o wybodaeth am y ddau brofiad, ewch i’n tudalen Profiad Ymgolli.

Os byddech yn elwa ar amgylchedd hamddenol, mae sesiynau hamddenol ar gael. Mae ardal dawel bwrpasol hefyd yn y Man Myfyrio ar gyfer cyfranogwyr y gallai fod angen amser i ffwrdd o’r profiad arnyn nhw.

Nid oes cynnwys sensitif i fod yn ymwybodol ohono.

Pam na all pobl dan 18 oed ymweld â’r profiad Gwrando Dwfn?

Mae profiad Dreamachine wedi’i gynllunio ar gyfer cynulleidfaoedd 18 oed neu hŷn.

Mae profiad i’r Holl Synhwyrau Dreamachine yn cynnwys cryn dipyn o oleuadau llachar sy’n fflachio’n gyflym, a elwir yn oleuadau strôb, a cherddoriaeth uchel. Mae cyngor gan ymgynghorwyr arbenigol yn dangos y gallai’r effeithiau hyn arwain at drawiad i rai pobl ag epilepsi, yn enwedig epilepsi ffotosensitif. Mae’r rhan fwyaf o bobl sy’n datblygu epilepsi ffotosensitif yn cael diagnosis erbyn eu harddegau hwyr. Ar gyfer pobl dan 18 oed mae risg uwch y bydd ganddyn nhw ffotosensitifrwydd heb ddiagnosis, a allai arwain at adwaith andwyol.

Oherwydd amserlen redeg y profiad, a’r ffaith ein bod yn cynnal profiadau Gwrando Dwfn ac i’r Holl Synhwyrau ar yr un pryd, nid yw’n bosibl i ni weithredu terfyn oedran hyblyg a rheoli’r gwaith angenrheidiol o ddiogelu hyn drwy’r profiad. Felly, er mwyn diogelu lles ein hymwelwyr a’n staff, dim ond oedolion 18 oed neu hŷn y gallwn eu derbyn.

Pam na allaf i fynd i’r profiad i’r Holl Synhwyrau?

Mae profiad i’r Holl Synhwyrau Dreamachine yn defnyddio goleuadau llachar sy’n fflachio’n gyflym, a elwir yn oleuadau strôb, a cherddoriaeth uchel, ac nid yw’n addas i’r rhai sydd o dan 18 oed, yn feichiog, na rhai pobl ag epilepsi neu sensitifrwydd posibl arall i oleuadau sy’n fflachio’n gyflym a/neu synau uchel. Mae hyn er mwyn diogelu lles ein holl ymwelwyr a’n staff. 

Os na allwch fynd i brofiad i’r Holl Synhwyrau Dreamachine ystyriwch archebu’r profiad Gwrando Dwfn, profiad ymgolli mewn sain amgylchynol 360 gradd gyda goleuadau ysgafn, nad ydynt yn cynnwys goleuadau sy’n fflachio’n gyflym. 

Pam nad yw’r profiad i’r Holl Synhwyrau yn cael ei argymell ar gyfer pawb sydd ag epilepsi, ac nid dim ond y rhai ag epilepsi ffotosensitif?

Mae epilepsi yn gyflwr cymharol gyffredin sy’n effeithio ar yr ymennydd. Mae gan dros 600,000 o bobl yn y DU epilepsi, sef un o bob 100 o bobl. Mae tua 60 miliwn o bobl ag epilepsi yn y byd. Gall hyd at 3% o bobl ag epilepsi gael trawiadau sy’n cael eu sbarduno, yn enwedig i rai dan 18 oed, gan oleuadau sy’n fflachio (a elwir yn epilepsi ffotosensitif).

Mae llawer o fythau a chamsyniadau ynghylch epilepsi ac epilepsi ffotosensitif, ac mae’r cyflwr yn dal i fod yn faes ymchwil gweithredol a pharhaus. Nid yw’r rhan fwyaf o bobl ag epilepsi yn cael trawiadau sy’n cael eu sbarduno gan oleuadau sy’n fflachio, ond mae cyngor gan ymgynghorwyr arbenigol yn dangos y gallai’r cyfuniad o effeithiau a ddefnyddir ym mhrofiad i’r Holl Synhwyrau Dreamachine fod â’r potensial i sbarduno trawiad i rai pobl ag epilepsi, ac yn bwysig, bod y risg o ymateb andwyol yn cynyddu os oes gennych epilepsi. Felly, er mwyn diogelu lles ein hymwelwyr a’n staff, dim ond oedolion nad oes ganddyn nhw epilepsi nac unrhyw sensitifrwydd hysbys i oleuadau sy’n fflachio, synau uchel neu amgylcheddau sy’n ysgogi’r holl synhwyrau yr ydym yn eu derbyn.

Rydym yn parhau i ymgynghori â chynghorwyr epilepsi, gan gynnwys arbenigwyr o UCL a Chanolfan Feddygol Prifysgol Stanford, i gynllunio a darparu profiad Dreamachine. Gan fod y prosiect yn un o’r enghreifftiau cyntaf i brofiad o’r math hwn gael ei wireddu ar y raddfa hon, rydym yn cymryd yr holl ragofalon angenrheidiol i gynorthwyo ein hymwelwyr a’n staff. Mae Dreamachine yn cynnig cyfle i ymchwilio a thrafod epilepsi ymhellach, ac os hoffech gysylltu â ni i drafod hyn, cysylltwch â ni.

Rydym wedi cynllunio dau brofiad ychwanegol i wneud y Dreamachine mor hygyrch â phosibl, ac i sicrhau bod y rhai ag epilepsi yn gallu cymryd rhan a mwynhau’r profiad. Mae profiad Gwrando Dwfn Dreamachine yn brofiad ymgolli mewn sain amgylchynol 360 gradd, gyda goleuadau ysgafn nad ydynt yn cynnwys goleuadau sy’n fflachio’n gyflym. Mae wedi’i gynllunio a’i ddatblygu i sicrhau bod Dreamachine mor hygyrch â phosibl i’r rhai a allai fod â sensitifrwydd i oleuadau strôb neu amgylcheddau sy’n ysgogi’r holl synhwyrau. Mae profiad Gwrando Dwfn Dreamachine wedi’i gynllunio a’i ddatblygu gan yr un tîm creadigol, a gyda’r un trylwyredd ac uniondeb artistig â’r profiad i’r Holl Synhwyrau y Dreamachine.

Mae holl brofiadau Dreamachine ar gael fel profiad Hamddenol hefyd. Mae hyn yn golygu agwedd hamddenol at sŵn a symud, lle mae gennych ryddid i fynd i mewn a gadael y profiad byw pan fo angen. Mae hyn yn addas ar gyfer unrhyw un a fyddai’n elwa ar brofiad mwy anffurfiol.

Pam nad yw’r profiad yn addas i bobl dan 18 oed?

Mae profiad i’r Holl Synhwyrau Dreamachine yn cynnwys cryn dipyn o oleuadau llachar sy’n fflachio’n gyflym, a elwir yn oleuadau strôb, a cherddoriaeth uchel. Mae cyngor gan ymgynghorwyr arbenigol yn dangos y gallai’r effeithiau hyn arwain at drawiad i rai pobl ag epilepsi, yn enwedig epilepsi ffotosensitif. Mae’r rhan fwyaf o bobl sy’n datblygu epilepsi ffotosensitif yn cael diagnosis erbyn eu harddegau hwyr. Ar gyfer pobl dan 18 oed mae risg uwch y bydd ganddyn nhw ffotosensitifrwydd heb ddiagnosis, a allai arwain at adwaith andwyol. Felly, er mwyn diogelu lles ein hymwelwyr a’n staff, dim ond oedolion 18 oed neu hŷn y gallwn eu derbyn.

Pam ydw i ond yn cael archebu un tocyn ar y tro?

Er mwyn sicrhau eich bod yn dewis y profiad sy’n addas i chi, mae’n rhaid i chi lenwi ffurflen cyn y digwyddiad cyn i chi archebu tocyn. Mae’r ffurflen hon yn cynnwys gwybodaeth am gyflyrau meddygol neu sensitifrwydd posibl a allai fod yn berthnasol i’ch cyfranogiad ac mae’n rhaid i ddeiliad unigol y tocyn ei chwblhau. O’r herwydd, dim ond un tocyn y gallwn ganiatáu i bob unigolyn ei archebu.

Sut mae archebu profiad hygyrch?

Edrychwch ar ein tudalen Hygyrchedd i gael gwybodaeth am ein darpariaeth hygyrchedd a sut i archebu. Os hoffech drafod y ddarpariaeth hygyrchedd sydd ei hangen arnoch yn fanylach, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau yn eich lleoliad dewisol.

Sut mae archebu tocyn?

Mae tocynnau ar gael bellach ar gyfer Llundain a Chaerdydd. I’w harchebu, ewch i dudalen Profiad Ymgolli y wefan. Ar gyfer Belfast a Chaeredin, bydd tocynnau ar gael i’w harchebu o ganol mis Mehefin. Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr i fod y cyntaf i gael gwybod pryd bydd tocynnau ar gael. Bydd pob tocyn am ddim.

Sut ydw i’n ymweld â Dreamachine?

Gallwch ymweld â’r profiad mewn lleoliadau yn Llundain, Caerdydd, Belfast a Chaeredin. Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr i sicrhau eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am ddyddiadau lansio tocynnau. Os na allwch chi fynd neu os ydych o dan 18 oed, gweler adrannau’r Rhaglen Ysgolion a Darganfod ein gwefan i gael rhagor o wybodaeth am ffyrdd eraill y gallwch gymryd rhan yn ein rhaglen.

Beth yw profiad Dreamachine?

Mae’r Dreamachine yn brofiad ymgolli ar eich eistedd gyda cherddoriaeth a golau, wedi’i gynllunio i’w fwynhau gyda’ch llygaid ar gau. Byddwch yn eistedd yn gyfforddus drwy gydol y profiad.

Mae dwy fersiwn o’r profiad Dreamachine: I’r Holl Synhwyrau a Gwrando Dwfn. 

Mae’r profiad i’r Holl Synhwyrau yn cynnwys goleuadau llachar sy’n fflachio’n gyflym, a elwir yn oleuadau strôb, a cherddoriaeth uchel. I lawer o bobl bydd effeithiau’r goleuadau a’r gerddoriaeth yn cynhyrchu delweddau lliwgar, caleidosgopig y tu ôl i’ch llygaid cau. Mae’r profiad yn cynnwys sain amgylchynol 360 gradd, ac mae wedi’i gynllunio i fod yn daith fewnol bleserus a all fod yn hamddenol ac yn gyffrous.

Nid yw’r profiad i’r Holl Synhwyrau yn addas i bobl feichiog na rhai pobl ag epilepsi neu sensitifrwydd posibl arall i oleuadau sy’n fflachio’n gyflym a synau uchel. Os oes unrhyw fath o’r sensitifrwydd hyn arnoch chi, rydym yn awgrymu eich bod yn ystyried trefnu profiad Gwrando Dwfn.

Mae profiad Gwrando Dwfn Dreamachine yn brofiad ymgolli mewn sain amgylchynol 360 gradd gyda goleuadau ysgafn nad ydynt yn cynnwys goleuadau sy’n fflachio’n gyflym. Mae wedi’i gynllunio i wneud y profiad mor hygyrch â phosibl i’r rhai a allai fod â sensitifrwydd i oleuadau strôb neu amgylcheddau sy’n ysgogi’r holl synhwyrau.

Ar ôl y naill brofiad Dreamachine neu’r llall, cewch eich gwahodd i dreulio amser yn ein Man Myfyrio rhyngweithiol yn y lleoliad, lle bydd cyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol neu fyfyriol yn unigol a gydag eraill.

How do I contact the Box Office? (W)

The Dreamachine is an immersive experience with music and light, designed to be enjoyed with your eyes closed. You will be comfortably seated throughout the experience.

It is inspired by an extraordinary 1959 invention by artist Brion Gysin, described as the ‘first artwork to be experienced with your eyes closed’. The 21st Century Dreamachine has been created by a team of leading minds in architecture, technology, music, neuroscience, and philosophy, including Turner Prize-winning collective Assemble and Grammy-nominated composer Jon Hopkins.

You’ll be able to experience Dreamachine in London, Cardiff.

How do I book a ticket? (W)

The Dreamachine is an immersive experience with music and light, designed to be enjoyed with your eyes closed. You will be comfortably seated throughout the experience.

It is inspired by an extraordinary 1959 invention by artist Brion Gysin, described as the ‘first artwork to be experienced with your eyes closed’. The 21st Century Dreamachine has been created by a team of leading minds in architecture, technology, music, neuroscience, and philosophy, including Turner Prize-winning.

The Dreamachine immersive experience is part of a wider Dreamachine programme exploring perception, illusion and the power of the mind. It is part of UNBOXED: Creativity in the UK.

What is the Dreamachine experience? (W)

The Dreamachine is an immersive experience with music and light, designed to be enjoyed with your eyes closed. You will be comfortably seated throughout the experience.

It is inspired by an extraordinary 1959 invention by artist Brion Gysin, described as the ‘first artwork to be experienced with your eyes closed’. The 21st Century Dreamachine has been created by a team of leading minds in architecture, technology, music, neuroscience, and philosophy, including Turner Prize-winning collective Assemble and Grammy-nominated composer Jon Hopkins.

You’ll be able to experience Dreamachine in London, Cardiff, Belfast and Edinburgh between May and September 2022.

The first release of tickets for London and Cardiff are available now. All tickets to the Dreamachine are free.

The Dreamachine immersive experience is part of a wider Dreamachine programme exploring perception, illusion and the power of the mind. It is part of UNBOXED: Creativity in the UK.

Who is it for? (W)

The Dreamachine is an immersive experience with music and light, designed to be enjoyed with your eyes closed. You will be comfortably seated throughout the experience.

It is inspired by an extraordinary 1959 invention by artist Brion Gysin, described as the ‘first artwork to be experienced with your eyes closed’. The 21st Century Dreamachine has been created by a team of leading minds in architecture, technology, music, neuroscience, and philosophy, including Turner Prize-winning collective Assemble and Grammy-nominated composer Jon Hopkins.

You’ll be able to experience Dreamachine in London, Cardiff, Belfast and Edinburgh between May and September 2022.

The Dreamachine immersive experience is part of a wider Dreamachine programme exploring perception, illusion and the power of the mind. It is part of UNBOXED: Creativity in the UK.

This site is registered on wpml.org as a development site.