A rad wolf

Dreamachine Ysgolion

Cyfuno gwyddoniaeth a chelf i archwilio grym y meddwl dynol yn greadigol.

Mae Dreamachine Ysgolion yn rhaglen addysg am ddim bwysig i’r DU gyfan, wedi’i datblygu gan A New Direction mewn partneriaeth â Chymdeithas Wyddoniaeth Prydain, UNICEF UK a We The Curious.

Darganfyddwch amrywiaeth o ffyrdd i’ch ysgol ymgysylltu â syniadau a themâu Dreamachine, gyda chynlluniau gwersi achrededig am ddim mewn Gwyddoniaeth, Dinasyddiaeth, ac Iechyd a Lles, datblygiad proffesiynol athrawon yn canolbwyntio ar les ac iechyd meddwl, ac archwilio’n rhyngweithiol rym anhygoel yr ymennydd dynol a sut yr ydym ni i gyd yn profi’r byd gyda Martin Dougan (Newsround CBBC) yn gofyn Cwestiynau Mawr Bywyd (Life’s Big Questions).

A rad wolf

Life’s Big Questions

Cymerwch ran yn ein harolwg i blant ledled y wlad ac archwilio’r synhwyrau gyda Martin Dougan (Newsround CBBC).

Pum gweithgaredd rhyngweithiol i herio plant (7+ oed) gartref neu yn yr ystafell ddosbarth gyda chwestiynau gwyddonol ac athronyddol mawr ynghylch sut yr ydym ni’n profi’r byd gyda gwahoddiad i ddisgyblion rannu eu barn a’u safbwyntiau ar yr hyn sy’n bwysicaf iddyn nhw. 

Perffaith ar gyfer amser dosbarth, gwasanaethau neu wersi llawn!

“Mae fy nosbarth wedi mwynhau cymryd rhan yn Life’s Big Questions yn fawr iawn. Daeth yn rhan o’n trefn wythnosol ac rydym ni wir yn drist ei fod wedi dod i ben.” Mr Dowell, Athro Blwyddyn 4, Ysgol Gynradd Chesterton

A rad wolf

30 o Gynlluniau Gwersi

gyda Chymdeithas Wyddoniaeth Prydain a UNICEF UK.

Archwiliwch 30+ o gynlluniau gwersi achrededig a gyda sicrwydd ansawdd am ddim sy’n ymdrin â Dinasyddiaeth Fyd-eang, Y Byd o’n Cwmpas, Iechyd a Lles, Datblygiad Personol, Grym yr Ymennydd, a Chanfyddiad a Rhithganfyddiad. 

Wedi’u cynllunio ar gyfer disgyblion 5 – 13 oed, mae pob gwers yn cyfateb i’r Cwricwlwm Cenedlaethol ar gyfer Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Cwricwlwm Rhagoriaeth i’r Alban.

A rad wolf

Lles Athrawon

Gyda’r Coleg Addysgu Siartredig a Chymorth Addysg.

Cyfres o weminarau datblygiad proffesiynol ar gyfer athrawon ac addysgwyr sy’n canolbwyntio ar wyddoniaeth lles; gweithredu ar les meddyliol; rheoli amser; ymwybyddiaeth ofalgar a myfyrdod a chyfeirio ar gyfer gweithgareddau yn y dosbarth i gefnogi iechyd meddwl plant. 

Gwyliwch y gweminarau wedi’u recordio yn eich amser eich hun, neu lawrlwythwch y pecyn HMS Athrawon i’w rannu â chydweithwyr.

A rad wolf

"Mae Dreamachine wedi rhoi cyfle i ni ddatblygu sgiliau celf a gwyddoniaeth y tu hwnt i ddychymyg ar gyfer y cwricwlwm cynradd ond yn hanfodol i blant. "

Mr Guerro, Arweinydd Cwricwlwm Celfyddydau Creadigol, Academi Gynradd Hillyfield

Tiwtorial Gweithgaredd Celf Optegol

Mae ein cynlluniau gwersi yn llawn syniadau creadigol i blant a gwnaethom ni ymuno ag ArtJohn ar YouTube i ddod â thiwtorial sydyn i chi i wneud Celf Optegol gyda’r plant yn yr ystafell ddosbarth neu gartref.

A rad wolf

"Roedd yn peri i rywun feddwl ... roedd y plant yn gofyn cwestiynau gwych iawn. Hoffwn gynnwys hyn yn fy ngwersi eraill."

Ms Duddridge, Athrawes Blwyddyn 5, Ysgol Gynradd Severn

Diolch yn arbennig i’n Hysgolion Cenhadon

Ysgol Gynradd Hillyfield, Waltham Forest

Ysgol Gynradd Chesterton, Caergrawnt

Ysgol Gynradd Victoria, Caeredin

Ysgol Gynradd Severn, Caerdydd

Ysgol Gynradd St Francis, Caeredin

Lansbury Lawrence, Llundain

Mae’r rhaglen ysgolion wedi’i datblygu gyda:

This site is registered on wpml.org as a development site.